Canghellor y Trysorlys, George Osborne (gwifren PA)
Mae’r Canghellor George Osborne wedi rhoi’r gorau i gynlluniau i ddileu lwfansau treth ar gyfraniadau pensiwn yn y Gyllideb ar 16 Mawrth.

Roedd adroddiadau ei fod yn ystyried sefydlu cynlluniau cynilion di-dreth fel Isas i gymryd lle’r lwfans treth ar gyfraniadau pensiwn.

Roedd arbenigwyr wedi rhybuddio am beryglon cynllun o’r fath gan y gallai arwain at argyfwng wrth i gynilwyr dynnu eu harian allan o’u cronfeydd pensiwn.