Drôn ac awyren bron â gwrthdaro, Llun: Balpa
Mae peilotiaid awyrennau yn galw am gynnal profion i ganfod yr hyn fyddai’n digwydd pe bai awyren di-beilot, neu drôn yn bwrw awyren yn cludo teithwyr.
Daw’r alwad yn dilyn cyfres o achosion diweddar lle bu awyrennau di-beilot bron â bwrw awyrennau oedd yn cludo pobol.
Roedd y rhan fwyaf o’r achosion hyn wedi digwydd yn ne-nwyrain Lloegr a dywedodd y Gymdeithas Brydeinig dros Beilotiaid Awyrennau (Balpa), nad oedd achos wedi bod yng Nghymru.
Cymru’n ‘bwysig’ o ran datblygu dronau
“Mae hynny am nad yw’r gofod awyr yng Nghymru mor brysur,” meddai llefarydd ar ran Balpa wrth golwg360.
“Ond mae Cymru yn bwysig iawn o ran datblygu awyrennau di-beilot gan fod digon o’r gofod hynny ar gael.
“Mae’n broblem sy’n bodoli ledled y Deyrnas Unedig, ond mae’r rhan fwyaf o achosion lle bu gwrthdrawiad bron â digwydd wedi bod o amgylch maes awyr Heathrow.”
Goblygiadau gwrthdrawiad
Dywedodd Balpa eu bod nhw’n croesawu datblygiad awyrennau drôn ond bod angen gwneud ymchwil ar y goblygiadau posibl os bydd gwrthdrawiad yn digwydd.
Yn ôl cyn-beilot gyda’r Llu Awyr a British Airways, Steve Landells, mae’n bosib y gall injan yr awyren fethu neu gall ffenest caban y peilot dorri os bydd drôn yn ei bwrw.