Mae eirlaw, glaw trwm a gwyntoedd cryfion wedi bod yn achosi anawsterau mewn rhannau helaeth o Gymru fore Mercher.

Fe fu’r gwynt ar ei gryfaf (81 milltir yr awr) yn Aberdaron, tra bod gwyntoedd o 77 milltir yr awr yn Y Mwmbwls a 69 milltir yr awr yn Aberporth.

Mae Stryd y Wig a Ffordd y Môr yn Aberystwyth ynghau oherwydd gwyntoedd cryfion.

Mae 150 o gartrefi yn Sir Benfro wedi colli eu cyflenwad trydan, tra bod 51 o dai wedi’u heffeithio yn Rhondda Cynon Taf. Fe allai gymryd hyd at ddwy awr i adfer y cyflenwadau hynny.

Mae coed wedi disgyn ym Mhontypridd, Powys a Bro Morgannwg, tra bod llechi wedi disgyn oddi ar do yn Aberteifi, gan orfodi’r Stryd Fawr i gael ei chau.

Roedd oedi i deithwyr ar drenau yn Nhrefforest ger Pontypridd oherwydd bod coeden ar y cledrau ac fe fu’n rhaid galw peirianwyr.

Yn ardal Dyfed-Powys, mae traffig yn cael ei ddargyfeirio, tra bod pont Cleddau yn Sir Benfro ynghau i’r ddau gyfeiriad.

Mae un lôn o’r ail Bont Hafren ar yr M48 ynghau.

Mae rhybudd melyn mewn grym ar gyfer eira a rhew yn rhannau helaeth o’r gogledd, a rhybudd am wyntoedd cryfion ar draws y de.