Mae dros 70 o ddoctoriaid wedi ysgrifennu at swyddogion y Llywodraeth yng Nghaerdydd a San Steffan i ddweud y dylai taclo gael ei wahardd mewn gemau rygbi yn yr ysgol.
Cafwyd rhybudd fod risg uchel o anafiadau difrifol i blant dan 18 oed, sydd hefyd yn cymryd mwy o amser i wella o anafiadau fel cyfergydion.
Er gwaethaf hynny mae rygbi cyswllt llawn, yn wahanol i rygbi cyffwrdd neu rygbi digyswllt, yn parhau i fod yn rhan orfodol o’r cwricwlwm ymarfer corff mewn nifer o ysgolion.
Mae anafiadau wedi bod yn bwnc llosg o fewn rygbi’n ddiweddar, gyda sawl achos o chwaraewyr yn gorfod ymddeol oherwydd anafiadau pen, ac anaf difrifol i wddf Owen Williams yn dal i fod yn y cof.
‘Anafiadau difrifol’
Dywedodd y rheiny oedd wedi arwyddo’r llythyr, oedd yn cynnwys meddygon, swyddogion iechyd cyhoeddus ac academyddion, bod risg o anaf i blant “yn uchel a’r anafiadau yn aml yn rhai difrifol”.
“Mae’r rhan fwyaf o anafiadau yn digwydd wrth ergydio neu yn yr ardaloedd cyswllt, megis y dacl neu’r sgarmes,” meddai’r llythyr.
“Mae’r anafiadau hyn yn cynnwys torri esgyrn, rhwygo cymalau, datgymalu ysgwyddau, anafiadau asgwrn cefn ac anafiadau pen allai fod â goblygiadau byr tymor, gweddill oes, neu olygu diwedd oes i blant.”
Ychwanegwyd y gallai anafiadau fel cyfergydion arwain at iselder, anghofrwydd, a dirywiad mewn gallu siarad wrth i rywun fynd yn hŷn.
Camau diogelwch
Dywedodd Undeb Rygbi Lloegr eu bod eisoes wedi cymryd camau i gyflwyno taclo yn fwy graddol o fewn gemau ysgolion.
Mae Undeb Rygbi Cymru hefyd wedi cryfhau ei chanllawiau i ddelio ag anafiadau pen yn ddiweddar.
Ac yn ôl yr Athro Russell Viner o’r Coleg Brenhinol Pediatrig ac Iechyd Plant mae angen parhau i annog rygbi mewn ysgolion mewn ffordd ddiogel er mwyn taclo gordewdra ymysg plant.