Crawley 2–0 Casnewydd                                                                 

Colli oedd hanes Casnewydd wrth iddynt deithio i Stadiwm Broadfield i wynebu Crawley yn yr Ail Adran nos Fawrth.

Ymosodwr Casnewydd, Scott Boden, agorodd y sgorio ddeg munud cyn yr egwyl, ond yn anffodus gwnaeth hynny i’w rwyd ei hun wrth benio heibio Joe Day yn y gôl.

Dyblodd Shamir Fenelon fantais y tîm cartref gyda pheniad arall yn gynnar yn yr ail gyfnod ac felly yr arhosodd hi tan y diwedd.

Mae’r canlyniad yn cadw’r Alltudion yn bedwerydd ar bymtheg yn nhabl yr Ail Adran, wyth pwynt yn glir o safleoedd y gwymp.

.

Crawley

Tîm: Jones, Oyebanjo (Bawling 86’), Bradley, Ashton, Dunne, Edwards (Young 81’), Sutherland, Della Verde, Fenelon (Deacon 90’), Bond, Harrold

Goliau: Boden [g.e.h.] 36’, Fenelon 53’

Cerdyn Melyn: Della Verde 70’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Holmes, Jones, Hughes, Davies (Donacien 59’), Elito, Klukowski (Gosling 73’), Byrne, Ayina (Morgan 58’), Wilkinson, Boden

Cardiau Melyn: Davies 57’, Elito 65’, 85’, Wilkinson 69’

Cerdyn Coch: Elito 85’

.

Torf: 2,003