Joe Ledley
Y pêl-droediwr Joe Ledley ddaeth i’r brig mewn pôl i ddewis y barf sy’n creu’r ddelwedd fwyaf positif o Gymru.

Cafodd y pôl ei drefnu gan Keith Flett, sylfaenydd y Ffrynt Rhyddid Beirf, ac fe enillodd Ledley, sy’n chwarae i glwb Crystal Palace, 60% o’r pleidleisiau.

Y cerddor o’r band Thee Faction, Chris Fox ddaeth yn ail yn dilyn ei fuddugoliaeth y llynedd, ac Aelod Seneddol Gorllewin Casnewydd, Paul Flynn yn drydydd.

Dyma’r bedwaredd flwyddyn i’r pôl gael ei gynnal, a hynny’n dilyn llwyddiant arolwg tebyg ledled Prydain bob mis Rhagfyr.

Y chwaraewr rygbi Adam Jones ddaeth i’r brig yn 2013, a chwaraewr rygbi arall, Leigh Halfpenny gipiodd y wobr yn 2014.

Dydd Gŵyl Dewi

Dywed trefnwyr yr arolwg fod delweddau’n awgrymu bod gan Ddewi Sant farf, a bod beirf bellach yn chwarae rhan bwysicach erbyn hyn ym mywyd cyhoeddus Cymru.

Dywedodd Keith Flett fod buddugoliaeth Ledley yn argoeli’n dda i dîm pêl-droed Cymru wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer Pencampwriaethau Ewrop yn Ffrainc yn yr haf, a’i fod yn arwydd o rym y barf ar y cae pêl-droed.

Ymhlith yr enwogion eraill a gafodd eu cynnwys yn y rhestr fer roedd Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb, yr actor Richard Harrington, y canwr Syr Tom Jones, yr entrepreneur Syr Terry Matthews a chanwr y Super Furry Animals Gruff Rhys.

Ar ei dudalen Twitter, diolchodd Ledley i bawb oedd wedi pleidleisio.