Andy King a Chaerlŷr sy'n parhau ar y brig, ond oes gan Aaron Ramsey ac Arsenal dal obaith?
Cael a chael oedd hi i Gaerlŷr – ond fe ddaeth eu gôl ym munudau olaf y gêm wrth i ergyd Leonardo Uchoa drechu Norwich a chadw’u gobeithion o ennill y gynghrair yn fyw ac yn iach.

Fe ddaeth Andy King oddi ar y fainc i helpu’r tîm i wthio am y gôl fuddugol, sydd yn eu cadw dau bwynt o flaen Spurs yn y ras ar y brig.

Ennill oedd hanes Spurs hefyd gartref yn erbyn Tottenham, gyda Ben Davies yn gwylio o’r fainc wrth iddyn nhw drechu Abertawe o 2-1 er gwaethaf ymdrechion amddiffynnol Ashley Williams a Neil Taylor.

Mae Arsenal bellach bum pwynt ar ei hôl hi yn y ras ar y brig fodd bynnag, wedi i Aaron Ramsey a’i dîm golli o 3-2 yn erbyn beth oedd mwy neu lai yn ail dîm Man United.

Arhosodd West Ham yn chweched yn y tabl gyda buddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Sunderland, gyda James Collins unwaith eto’n chwarae’i ran wrth gadw llechen lân yn yr amddiffyn.

Ond doedd hi ddim yn brynhawn cystal i Wayne Hennessey a Joe Ledley, wrth i Crystal Palace fynd 3-0 ar ei hôl hi o fewn hanner awr yn erbyn West Brom.

Fe frwydrodd yr Eagles nôl i’w gwneud hi’n 3-2, gan sgorio eu dwy gôl ar ôl i James Chester ddod ymlaen fel eilydd i’r tîm cartref.

A beth am Gareth Bale, dw i’n clywed ambell un ohonoch chi’n gofyn? Dal heb ddychwelyd o anaf, er bod disgwyl iddo wneud yn fuan – a hynny’n anffodus iawn i Real Madrid, gollodd gartref o 1-0 yn y ddarbi leol i Atletico dros y penwythnos hebddo.

Y Bencampwriaeth

Mae Sam Vokes a Burnley bellach ar frig y Bencampwriaeth ar ôl iddyn nhw drechu Bolton o 2-1, er na chafodd y Cymro gôl.

Cododd Caerdydd i’r seithfed safle ar ôl buddugoliaeth o 2-1 dros Preston, gyda Tom Lawrence yn ennill y gic o’r smotyn ar gyfer ail gôl yr Adar Gleision.

Ennill oedd hanes Reading o 4-3 mewn gêm gyffrous yn erbyn Charlton, gyda Hal Robson-Kanu yn creu un o goliau’r Royals a Chris Gunter hefyd yn chwarae gêm lawn, tra bo Morgan Fox yn gwylio o fainc y gwrthwynebwyr.

Cafodd Joe Walsh gêm lawn a Jonny Williams 61 munud ar y cae wrth i MK Dons golli 3-2 yn erbyn Blackburn, ddaeth ag Adam Henley ymlaen fel eilydd hwyr.

Fe chwaraeodd David Cotterill 90 munud i Birmingham am y tro cyntaf ers dychwelyd o anaf wrth iddyn nhw golli i QPR o 2-0.

Ac yng ngemau eraill y gynghrair fe chwaraeodd David Vaughan i Nottingham Forest a Joel Lynch i Huddersfield, tra bod Jazz Richards dal ar y fainc i Fulham.

Yn Uwch Gynghrair yr Alban fe fethodd Aberdeen y cyfle i gau’r bwlch ar Celtic ar y brig ar ôl iddi orffen yn 1-1 yn erbyn St Johnstone, er i Simon Church rwydo ar ôl i beniad Ash Taylor gael ei arbed.

Yr un oedd y sgôr rhwng Dundee ac Inverness, gydag Owain Fôn Williams unwaith eto yn y gôl i Caley ac yn cael cerdyn melyn yn yr hanes cyntaf am wastraffu amser.

Yng Nghynghrair Un fe gafodd George Williams wobr seren y gêm i Gillingham er mai ymlaen fel eilydd yn yr hanner cyntaf ddaeth o, wrth i Declan John a Chesterfield gipio’r pwyntiau.

Ac fe sgoriodd Wes Burns i Fleetwood, Michael Doughty i Swindon a Steve Morison i Millwall ar brynhawn pan fethodd Tom Bradshaw â gwneud yr un peth i Walsall.

Seren yr wythnos – James Collins. Llechen lân arall i’r Cymro sy’n mwynhau tymor gwych gyda’i glwb.

Siom yr wythnos – Aaron Ramsey. Perfformiad siomedig ganddo fo a’i dîm wrth i Man United roi ergyd farwol i obeithion Arsenal o ennill y gynghrair.