Merched Cymru wedi cyrraedd Cwpan Rygbi'r Byd
Sicrhaodd tîm rygbi merched Cymru eu lle yng Nghwpan Rygbi’r Byd wrth iddyn nhw guro Ffrainc o 10-8 ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yng Nghastell-nedd brynhawn Sul.
Sgoriodd y cefnwr Dyddgu Hywel gais wedi pum munud wrth iddi hollti amddiffyn yr ymwelwyr.
Ond dechreuodd Ffrainc yn gryf hefyd wrth i’w pac ddangos eu grym wrth i’r wythwr Safi N’Diaye hyrddio dros y llinell gais.
Aeth Ffrainc ar y blaen wedi’r egwyl gyda chic gosb gan Audrey Abadie ond arhosodd amddiffyn Cymru’n gryf.
Wedi 58 o funudau, tiriodd y prop Megan York yn dilyn symudiad a gafodd ei ddechrau gan dacl yr eilydd o brop, Amy Evans i adennill y meddiant cyn i Bethan Dainton wibio i lawr yr asgell i gynorthwyo York wrth i Gymru fynd ar y blaen o 10-8.
Ar ddiwedd yr ornest, talodd y capten Rachel Taylor deyrnged i’w chyd-chwaraewyr.
“Mae’n sicr na fyddwn yn sylweddoli maint y fuddugoliaeth hon am rai diwrnodau.
“Roedden ni’n gwybod eu bod nhw’n dîm corfforol, roedden ni’n gwybod y bydden nhw’n dod aton ni a cheisio ennill yn yr ymosod ond rwy’n hynod falch o ymdrechion y merched.
“Byddwn ni’n mynd i herio Lloegr gyda hyder nawr – pam na fyddech chi wedi i chi guro Ffrainc?”