Gleision 23–13 Ulster
Sgoriodd y Gleision ddau gais hwyr wrth iddynt drechu Ulster yn y Guinness Pro12 ar Barc yr Arfau brynhawn Sul.
Roedd y tîm cartref ar ei hôl hi gyda wyth munud i fynd ond croesodd Rhys Patchell ac Aled Summerhill am geisiau hwyr i’w hennill hi i’r Cymry.
Hanner Cyntaf
Cafodd y Gleision ddigon o’r tir a’r meddiant yn yr hanner cyntaf ond heb wneud llawer o argraff ar y sgôr fwrdd.
Methodd Patchell gyda’i gynnig cyntaf at y pyst ac er i Paddy Jackson fethu gyda’i ymdrech gyntaf i’r Gwddelod hefyd fe lwyddodd gyda dwy gic tuag at ddiwedd yr hanner i roi ei dîm chwe phwynt ar y blaen.
Roedd digon o amser ar ôl i Patchell haneru’r bwlch gyda chic olaf yr hanner, 3-6 y sgôr ar yr egwyl.
Ail Hanner
Unionodd Patchell y sgôr yn gynnar yn yr ail hanner gyda mynydd o gic ond wnaeth hi ddim aros felly yn hir.
Pum munud o’r ail hanner oedd wedi mynd pan groesodd Craig Gilroy am y cais agoriadol, yr asgellwr yn croesi am sgôr rhwydd wedi bylchiad gwreiddiol Sam Arnold, 6-13 y sgôr wedi trosiad Jackson.
Roedd angen tacl dda Stuart Olding i atal Dan Fish rhag croesi am gais i’r Gleision ar yr awr yn dilyn bylchiad Patchell, ond fe wnaeth Patchell lwyddo i gau’r bwlch gyda chic gosb bum munud yn ddiweddarach.
Roedd y maswr yn ei chanol hi eto wrth i’r Cymry fynd ar y blaen wyth munud o’r diwedd, yn croesi am gais cyn ei drosi ei hun.
Roedd y fuddugoliaeth yn ddiogel dri munud o ddiwedd yr wyth deg wedi i Summerhill groesi yn y gornel chwith wedi dwylo da Ellis Jenkins. 23-13 y sgôr terfynol wedi trosiad Patchell.
Mae’r Gleision yn aros yn nawfed yn nhabl y Pro12 er gwethaf y fuddugoliaeth.
.
Gleision
Ceisiau: Rhys Patchell 73’, Aled Summerhill 78’
Trosiadau: Rhys Patchell 74’, 79’
Ciciau Cosb: Rhys Patchell 40’, 43’, 66’
.
Ulster
Cais: Craig Gilroy 46’
Trosiad: Paddy Jackson 47’
Ciciau Cosb: Paddy Jackson 32’, 37’