Tottenham 2–1 Abertawe                                                               

Ildiodd Abertawe ddwy gôl yn yr ugain munud olaf wrth iddynt golli yn erbyn Tottenham ar White Hart Lane yn yr Uwch Gynghrair brynhawn Sul.

Rhoddodd Alberto Paloschi’r Elyrch ar y blaen yn yr hanner cyntaf ond tarodd spurs yn ôl wedi’r egwyl gyda goliau Nacer Chadli a Danny Rose.

Cafodd Lukasz Fabianski gêm wych yn y gôl i’r Elyrch gan ddechrau gydag arbediad da i atal peniad Harry Kane wedi deuddeg munud.

Spurs oedd yn cael y gorau o’r gêm ar y cyfan ond yr ymwelwyr o dde Cymru a aeth ar y blaen wedi ychydig llai na ugain munud. Gwyrodd ergyd Angel Rangel oddi ar Jack Cork i lwybr Paloschi yn y cwrt cosbi a llwyddodd yr ymosodwr i rwydo.

Felly yr arhosodd hi tan hanner amser ond parhau i bwyso a wnaeth Spurs wedi’r egwyl. Roedd angen sawl arbediad da arall gan Fabianski i gadw’r ymwelwyr ar y blaen gan gynnwys un o gic rydd Christian Eriksen yn fuan wedi’r egwyl.

Unionodd y tîm cartref yn y diwedd gydag ugain munud i fynd, Chadli yn gwyro ergyd Kyle Walker heibio i Fabianski a’r gŵr o Wlad Pwyl wedi ei guro o’r diwedd.

Gwnaeth arbediad arall i atal Eriksen wedi hynny ond roedd wedi’i guro eto yn fuan wedyn wrth i Rose roi Spurs ar y blaen. Methodd yr Elyrch a chlirio cic gornel yn ddigon pell cyn i ergyd y cefnwr chwith ganfod cefn y rhwyd.

Mae’r fuddugoliaeth yn cadw Tottenham o fewn dau bwynt i Gaerlŷr ar frig yr Uwch Gynghrair ond mae Abertawe’n aros yn yr unfed safle ar bymtheg, dri phwynt yn unig yn glir o safleoedd y gwymp.

.

Tottenham

Tîm: Loris, Walker, Alderweireld, Wimmer, Rose, Dier, Alli, Son Heung-min (Mason 75’), Eriksen, Lamela (Chadli 63’), Kane (Onomah 84’)

Goliau: Chadli 70’, Rose 77’

Cardiau Melyn: Rose 56’, Walker 90’

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Rangel, Fernandez, Williams, Taylor, Cork, Britton (Fer 75’), Ki Sung-yueng (Gomis 83’), Sigurdsson, Ayew, Paloschi (Barrow 88’)

Gôl: Paloschi 19’

Cardiau Melyn: Williams 28’, Paloschi 42’, Ayew 58’

.

Torf: 35,922