Caeredin 24–23 Scarlets
Caeredin aeth â hi o un pwynt wrth i’r Scarlets ymweld â Murrayfield yn y Guinness Pro12 brynhawn Sul.
Roedd Bois y Soban ar y blaen ar yr egwyl diolch i dri chais hanner cyntaf ond yn ôl y daeth yr Albanwyr wedi’r egwyl gan ei hennill hi gyda chais hwyr Ben Toolis.
Hanner Cyntaf
Y tîm cartref a gafodd y dechrau gorau gyda’r maswr, Phil Burleigh, yn croesi am y cais agoriadol wedi i Blair Kinghorn ac Aled Thomas gyfnewid cic gosb yr un.
Ychwanegodd Thomas dri phwynt arall wedi hynny cyn i Hadleigh Parks sgorio cais cyntaf y Scarlets wedi chwarter awr.
Croesodd James Davies wedi hynny yn ei gêm gyntaf yn ôl i Fois y Sosban wedi anaf, cyn i Steffan Evans ymestyn y fantais gyda thrydydd cais yr ymwelwyr.
Kinghorn a Chaeredin a gafodd y gair olaf cyn troi serch hynny wrth i drydydd cic gosb y cefnwr gau’r bwlch i saith pwynt, 16-23 y sgôr wedi deugain munud.
Ail Hanner
Dechreuodd yr ail hanner fel y gorffennodd y cyntaf, gyda chic gosb gan Kinghorn yn cau’r bwlch ym mhellach.
Bu rhaid aros dipyn am y sgôr nesaf a Chaeredin a gafodd hwnnw gyda’r clo, Toolis, yn tirio i roi ei dîm ar y blaen gyda ychydig dros ddeg munud i fynd.
Methodd Thomas gyda ymgais i gicio’r Scarlets yn ôl ar y blaen a daliodd yr Albanwyr eu gafael i ennill y gêm o un pwynt, 24-23 y sgôr terfynol.
Ar ôl dechrau’r penwythnos yn ail, mae’r golled hon yn golygu fod y Scarlets yn llithro i’r trydydd safle yn nhabl y Pro12.
.
Caeredin
Ceisiau: Phil Burleigh 11’, Ben Toolis 68’
Trosiadau: Blair Kinghorn 12’
Ciciau Cosb: Blair Kinghorn 5’, 22’, 40’, 42’
.
Scarlets
Ceisiau: Hadleigh Parks 15’, James Davies 26’, Steffan Evans 35’
Trosiad: Aled Thomas 36’
Ciciau Cosb: Aled Thomas 7’, 14’