Mae Abertawe’n teithio i ogledd Llundain ddydd Sul (2.05) i herio Tottenham yn dilyn seibiant o bythefnos o’r Uwch Gynghrair.
Hon yw’r ornest gyntaf ers iddyn nhw golli o 1-0 yn erbyn Southampton yn Stadiwm Liberty bythefnos yn ôl.
Mae’r Elyrch driphwynt yn unig uwchben y safleoedd disgyn ar waelod y tabl, ac fe fyddan nhw hefyd wynebu taith anodd i Arsenal ymhen tridiau.
Mae Spurs, sy’n ail yn y tabl, wedi ennill eu pum gêm gynghrair diwethaf, gan golli unwaith yn unig yn eu deg gêm diwethaf.
Dau bwynt yn unig sydd rhwng Spurs a Chaerlŷr ar frig y tabl.
Ar drothwy’r ornest, dywedodd Alan Curtis: “Doedden ni ddim yn disgwyl darganfod ein hunain yn y sefyllfa hon ond ry’n ni i gyd yn ymwybodol o’r lle’r ydyn ni.
“Roedd yr ornest yn erbyn Southampton yn siomedig ond mae’n un golled o blith pum gornest i ni.
“Ry’n ni i gyd yn rhoi pwysau arnon ni’n hunain ac rydym yn gwybod fod rhaid i ni wella’n sylweddol a chael rhediad arall.”
Spurs sydd wedi ennill y pum gwaith diwethaf iddyn nhw herio’i gilydd yn yr Uwch Gynghrair, a dydy’r Elyrch erioed wedi ennill yn y gynghrair yn White Hart Lane.
Pe bai Spurs yn ennill, bydden nhw’n cyrraedd 54 o bwyntiau – eu cyfanswm mwyaf erioed yn yr Uwch Gynghrair.