Mae tîm rygbi merched Cymru’n disgwyl gêm gorfforol wrth iddyn nhw groesawu Ffrainc i’r Gnoll yng Nghastell-nedd brynhawn Sul (2 o’r gloch).
Mae tri newid ymhlith y blaenwyr wrth i Catrin Edwards, Shona Powell-Hughes a Rachel Taylor ddychwelyd i’r tîm.
Mae un newid ymhlith yr olwyr wrth i Bethan Dainton ddechrau yn safle’r asgell yn lle Adi Taviner.
Mae Meg York yn symud o fod yn brop pen rhydd i fod yn brop pen tynn, ac mae Amy Evans wedi’i henwi ymhlith yr eilyddion.
Daw Powell-Hughes i mewn i’r rheng ôl yn lle Siwan Lillicrap, sydd yn symud i’r fainc.
Wrth i Taylor ddychwelyd i safle’r blaenasgellwr ochr dywyll, mae Sian Williams yn symud i’r ochr agored, ac mae Alisha Butchers ymhlith yr eilyddion.
Dywedodd prif hyfforddwr Cymru, Rhys Edwards ei fod yn disgwyl gêm gorfforol yn ardal y dacl.
“Mae’n mynd i fod yn gêm anodd yn gorfforol yn ardal y dacl ond ry’n ni’n hyderus y gallwn ni gystadlu gyda’r pac ry’n ni wedi’i ddewis.
“Dangosodd y llinell ôl eu bwriad ymosodol yn erbyn yr Alban, a gyda Bethan [Dainton] yn dod i mewn, mae gyda ni rywun all sgorio ceisiau.
“Mae angen i ni sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd ry’n ni’n eu creu.”
Cymru: Dyddgu Hywel, Bethan Dainton, Hannah Jones, Robyn Wilkins, Elen Evans, Elinor Snowsill, Keira Bevan; Catrin Edwards, Carys Phillips, Megan York, Rebecca Rowe, Shona Powell-Hughes, Rachel Taylor (capten), Sian Williams, Sioned Harries.
Eilyddion: Amy Price, Cerys Hale, Amy Evans, Siwan Lillicrap, Alisha Butchers, Jenny Hawkins, Kerin Lake, Adi Taviner
Bydd uchafbwyntiau i’w gweld ar Y Clwb ar S4C am 5 o’r gloch.