Connacht 30–22 Gweilch

Connacht aeth â hi wrth i’r Gweilch ymweld â Maes Chwarae Galway i herio Connacht yn y Guinness Pro12 nos Sadwrn.

Sgoriodd y tîm cartref yn y munud cyntaf, cyn aros ar y blaen am ran helaeth o’r gêm, i ymestyn eu mantais ar frig y tabl.

Munud yn unig oedd ar y cloc pan groesodd y canolwr nerthol, Bundee Aki, am gais cyntaf y gêm.

Roedd gan y Gwyddelod fantais iach ddeg munud yn ddiweddarach wedi i Alan MacGinty ychwanegu’r ail.

Yn ôl y daeth y Gweilch serch hynny gyda cheisiau Ben John a Dan Baker yn eu rhoi o fewn cyrraedd, a chic gosb Sam Davies yn eu rhoi ar y blaen am y tro cyntaf chwarter awr cyn yr egwyl.

Tri munud yn unig yr arhosodd hi felly cyn i gic gosb Craig Ronadlson adfer mantais Connacht a hwy oedd ar y blaen wrth droi.

Ymestynnodd y Gwyddelod eu mantais gyda phwyntiau cyntaf yr ail hanner, Matt Healy, yn croesi a throsiad Ronaldson yn rhoi mymryn o olau dydd rhwng y timau.

Ymatebodd y Gweilch yn syth gyda chais Rhys Webb ond sicrhaodd Ronaldson y fuddugoliaeth i’w dîm gyda dwy gic gosb arall, 30-22 y sgôr terfynol.

Mae’r canlyniad yn sicrhau y bydd Connacht yn gorffen y penwythnos ar frig y Guinness tra mae’r Gweilch yn aros yn seithfed

.

Connacht

Ceisiau: Bundee Aki 1’, Alan MacGinty 11’, Matt Healy 51’

Trosiadau: Craig Ronaldson 2’, 12’, 52’

Ciciau Cosb: Craig Ronaldson 28’, 58’, 67’

.

Gweilch

Ceisiau: Ben John 13’, Dan Baker 24’, Rhys Webb 55’

Trosiadau: Sam Davies 25’, 55’

Cic Gosb: Sam Davies 4’