Mae’r actor Frank Kelly, sydd fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Father Jack yn y gyfres gomedi ‘Father Ted’ wedi marw’n 77 oed.
Fe dreuliodd Kelly 60 o flynyddoedd yn actio ar y sgrin a’r llwyfan, ac fe fu farw union 18 o flynyddoedd ar ôl ei gyd-actor Dermot Morgan, oedd yn chwarae rhan Father Ted.
Ar ei dudalen Twitter, dywedodd awdur y gyfres, Graham Linehan: “Newyddion trist ofnadwy. Diolch am bopeth.”
Roedd Kelly yn dioddef o glefyd Parkinson.
Er iddo ymddangos yn y ffilm Mrs Brown’s Boys D’Movie a’r opera sebon Emmerdale, fe fydd yn cael ei gofio am regfeydd ei gymeriad Father Jack yn ‘Father Ted’.
Roedd ei gymeriad, Father Jack Hackett yn alcoholig ac yn dreisgar ar brydiau, ac roedd yn casau ei gyd-offeiriaid.
Roedd yn fwyaf adnabyddus am gyfres o regfeydd.