Euron Griffith yn un o golofnwyr y papur newydd sy'n cael ei lansio ddydd Llun
Fe fydd yr awdur a’r cyflwynydd radio Euron Griffith yn un o golofnwyr y papur newydd dyddiol Prydeinig newydd, ‘The New Day’.
Hwn yw’r papur newydd unigol cyntaf – un heb chwaer bapur – i’w gyhoeddi yn y DU ers 30 o flynyddoedd.
Bydd y papur ar gael yn rhad ac am ddim ddydd Llun ar ddiwrnod ei lansio, ac fe fydd yn costio 25 ceiniog am bythefnos cyn codi’r pris i 50 ceiniog wedi hynny.
Trinity Mirror, sy’n berchen ar y Western Mail a’r Daily Post, sy’n cyhoeddi’r papur.
Yn ôl y cwmni, fe fydd y papur newydd yn cynnig rhywbeth amgen i’r hyn sydd ar gael eisoes, ac mae disgwyl iddo fod yn wleidyddol niwtral.
Cynnig rhywbeth amgen
Mewn datganiad, dywedodd golygydd ‘The New Day’, Alison Phillips: “Mae nifer o bobol ar hyn o bryd nad ydyn nhw’n prynu papur newydd, nid am eu bod nhw wedi syrthio allan o gariad efo papurau newydd fel fformat, ond am nad yw’r hyn sydd ar gael ar stondinau papurau newydd hyn o bryd yn diwallu eu hanghenion.
“Cafodd y papur hwn ei greu o ganlyniad i fewnwelediad i gwsmeriaid a hwn yw’r papur newydd cyntaf i gael ei ddylunio ar gyfer ffordd o fyw cyfoes pobol.”
Ychwanegodd prif weithredwr Trinity Mirror, Simon Fox: “Mae dros 1 miliwn o bobol wedi rhoi’r gorau i brynu papur newydd dros y ddwy flynedd diwethaf ond rydym yn credu y gellir temtio nifer fawr ohonyn nhw’n ôl gyda’r cynnyrch cywir.
“Mae adfywio print yn rhan ganolog o’n strategaeth ochr yn ochr â thrawsnewid digidol a does dim angen dewis rhwng y ddau – gall papurau newydd fyw yn yr oes ddigidol os ydyn nhw wedi’u dylunio i gynnig rhywbeth gwahanol.”