Mae llanc 16 oed wedi cael ei drywanu i farwolaeth yn dilyn helynt ym Mryste fore Sul.

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Lockleaze y ddinas am oddeutu 5.50 y bore cyn i’r llanc gael ei gludo i ysbyty Southmead, lle bu farw’n ddiweddarach.

Cafodd dyn 19 oed ei arestio ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa.

Dydy’r llanc ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto.

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth, ac fe fydd archwiliad post-mortem yn cael ei gynnal maes o law.