Canghellor y Trysorlys, George Osborne (llun: PA)
Mae gweinidogion cyllid holl wledydd y G20 wedi datgan y byddai i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd yn peri sioc i economi’r byd.

Dywedodd y Canghellor George Osborne fod gweinidogion economïau mwyaf y byd yn unfrydol eu barn mewn cyfarfod yn uwch-gynhadledd gwledydd y G20 yn Shanghai heddiw.

“Mae arweinwyr ariannol a llywodraethwyr banciau canolog economïau mwyaf y byd wedi codi pryderon difrifol ynghylch y risgiau petai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd,” meddai.

“Maen nhw wedi dod i’r casgliad unfrydol heddiw mai’r sioc a ddeuai yn sgil pleidlais bosibl gan Brydain i adael yw un o’r peryglon economaidd mwyaf eleni.

“Os mai dyma yw eu hasesiad o’r effaith ar economi’r byd, dychmygwch beth fyddai hyn yn ei olygu i Brydain.”