Troseddwyr Rotherham (Llun:PA)
Mae arweinydd giang fu’n “rhedeg Rotherham” ac yn ecsploetio merched ifanc yn rhywiol yn y dref wedi cael ei ddedfrydu i garchar am 35 mlynedd.

Roedd Arshid Hussain yn un o dri brawd oedd yn gyfrifol am drais rhywiol, corfforol ac emosiynol yn erbyn dwsin o ferched roddodd dystiolaeth yn yr achos llys.

Cafodd ei frodyr Basharat Hussain, 39, a Bannaras Hussein, 36, hefyd eu carcharu am 25 mlynedd ac 19 mlynedd am eu rhan hwythau.

Cafodd ewythr y brodyr Qurban Ali, 53, hefyd garchar am ddeng mlynedd, tra bod dynes oedd wedi eu cynorthwyo, Karen MacGregor, 58, wedi cael 13 mlynedd. Rhoddwyd dedfryd ohiriedig o 18 mis i ddynes arall, Shelley Davis.

‘Heddlu’n anwybyddu’

Dywedodd y Barnwr Sarah Wright wrth eu dedfrydu “nad oedd modd dychmygu faint o niwed” roedden nhw wedi’i achosi.

Mae ymchwiliad swyddogol yn parhau i’r ffordd y gwnaeth yr heddlu ddelio â’r achos, a methiannau wrth geisio gweithredu.

Fe glywodd y llys bod Bannaras Hussein wedi gorfodi un ferch i gyflawni gweithred rywiol arno mewn maes parcio ger gorsaf heddlu yn Rotherham, a bod swyddogion wedi ei anwybyddu.

Roedd merched arall oedd wedi rhoi cyfathrach eneuol i Bannaras Hussein ddim ond yn ’12 neu 13 oed’ ar y pryd, ac fe gafodd ei churo gan ei brodyr ei hun wedi iddyn nhw ddod i wybod.

‘Problem gymunedol’

Dywedodd y barnwr fod pob un o’r brodyr Hussein wedi “cyflawni neu hwyluso trais rhywiol yn erbyn y merched ifanc hyn”.

“Roedd eich dioddefwyr yn cael eu targedu, rhywioli ac mewn rhai achosion yn gorfod dioddef gweithredoedd o natur dreisgar a diraddiol”.

Roedd y dynion yn dod o blith cymuned Foslemaidd Bacistanaidd Rotherham, ac mae un o arweinwyr Moslemiaid gwledydd Prydain wedi galw ar y gymuned i gydnabod fod ganddi broblem.

“Nes i Bacistaniaid o Brydain dderbyn bod hyn yn broblem i’n cymuned fyddwn ni ddim yn gallu cael gwared â’r drygioni hyn,” meddai Mohammed Shafiq, prif weithredwr Sefydliad Ramadhan.

“Dyw claddu ein pen yn y tywod fel yr ymateb arferol ddim yn ddigon da.”