Afon Ogwen (llun:Partneriaeth Ogwen)
Penwythnos yma fe fydd mentrau cymunedol yn y gogledd yn gobeithio mynd gam yn nes tuag at greu trydan dŵr mewn dwy ardal yn Eryri.
Bwriad cynlluniau Ynni Ogwen ac Ynni Peris ydi sefydlu prosiectau fydd yn gallu cynhyrchu trydan a dod ag arian i gymunedau lleol.
Mae disgwyl i gynlluniau ar gyfer cynigion cyfranddaliadau cymunedol gael eu lansio yfory am ddau y p’nawn yn Neuadd Ogwen, Bethesda.
‘Dros £100,000 y flwyddyn’
Y gobaith ydi efelychu llwyddiant criw Ynni Anafon yn Abergwyngregyn, a adeiladodd gynllun dŵr yn 2014 sydd bellach yn allforio hyd at 900Mwh o drydan bob blwyddyn ac yn cynhyrchu incwm misol o £36,000.
Byddai’r prosiect hydro yn Nyffryn Ogwen yn gynllun trydan dŵr rhan isel 100kW wedi ei osod ar wely’r afon uwch ben y rhaeadrau ger Pont Ogwen, gyda’r gobaith o gynhyrchu incwm o dros £66,950 y flwyddyn.
Ychydig yn llai fyddai cynllun Dyffryn Peris, gyda tyrbin trydan dŵr 55kW ar Afon Goch yn gobeithio gwneud tua £40,000 y flwyddyn.
Byddai’r incwm net yn cael ei fuddsoddi mewn prosiectau cynaliadwyedd yn y dyffryn.
Croeso gan Alun Ffred
Bydd y cyfranddaliadau, sy’n costio £250 yr un, ar gael i’w prynu dros y ddau fis nesaf, gan ddechrau ar 27 Chwefror.
Mae’r cynlluniau diweddaraf yn nyffrynnoedd Ogwen a Peris eisoes wedi cael eu croesawu gan AC Arfon Alun Ffred Jones.
“Nid yn unig mae’n gyfle gwych, ond mae hefyd yn harneisio ein hadnoddau naturiol drwy greu trydan adnewyddadwy, glân, a chynhyrchu incwm ar gyfer prosiectau cymunedol lleol hefyd.”
Fe fydd modd clywed mwy am y prosiectau mewn sesiynau gwybodaeth yn y Mynydd Gwefru, Llanberis o 10 y bore ddydd Sadwrn, ac yna yn Neuadd Ogwen o 2 y pnawn.