Y chwech (Lluniau PA)
Fe fydd tri brawd oedd yn rhan o giang a fu’n cam-drin merched ifanc yn rhywiol yn Rotherham yn clywed eu dedfryd heddiw, yn ogystal â thri arall oedd yn rhan o’r cynllwyn.
Yn ystod yr achos yn eu herbyn fe glywodd Llys y Goron Sheffield gan nifer o ferched, sydd bellach yn eu 30au, yn dweud eu bod wedi dioddef o drais rhywiol, corfforol ac emosiynol dychrynllyd pan oedden nhw yn eu harddegau.
Clywodd y rheithgor fod y tri brawd – Arshid, Basharat a Bannaras Hussein – yn “rheoli Rotherham” gyda’u trefniadau gwerthu cyffuriau a’u gynnau.
Fe gafwyd y tri yn euog o gyfres o droseddau, yn ogystal â’u hewythr Qurban Ali, 53, a dwy ddynes oedd wedi’u cynorthwyo – Karen MacGregor, 58, a Shelley Davis, 40.
‘Problem yn y gymuned’
Y brodyr Hussain fydd y cyntaf i gael eu dedfrydu yn yr ymchwiliad i ecsploetio rhywiol o blant yn Rotherham yn dilyn cyhoeddi Adroddiad Jay.
Yn ystod y ddeufis diwetha’, mae 12 o ferched wedi dweud wrth reithgor am y ffordd y cawson nhw eu cadw’n gaeth, eu cam-drin, eu treisio a’u gorfodi i fod yn buteiniaid.
Mae’r corff sydd yn gyfrifol am oruchwylio’r heddlu eisoes yn edrych ar 194 honiad am fethiant plismyn i weithredu, gyda 54 o swyddogion yn cael eu henwi a 26 yn cael gwybod bod ymchwiliad swyddogol i’w gwaith.
‘Dim claddu pen yn y tywod’
Roedd y dynion yn dod o blith cymuned Foslemaidd Bacistanaidd Rotherham ac mae un o arweinwyr Moslemiaid gwledydd Prydain wedi galw ar Bacistaniaid Prydeinig eraill i weithredu.
Dywedodd Mohammed Shafiq, prif weithredwr Sefydliad Ramadhan, fod angen i’r gymuned Bacistanaidd ym Mhrydain gydnabod y broblem fod gangiau o’r fath yn gweithredu yn eu cymunedau.
“Nes i Bacistaniaid o Brydain dderbyn bod hyn yn broblem i’n cymuned fyddwn ni ddim yn gallu cael gwared â’r drygioni hyn. Dyw claddu ein pen yn y tywod fel yr ymateb arferol ddim yn ddigon da,” meddai.