Michael Howard - yn erbyn (MHolland CCA2.0)
Mae cyn-arweinydd y Blaid Geidwadol wedi ymuno gyda’r ymgyrch i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl y Cymro, Michael Howard – rhagflaenydd David Cameron yn y swydd – dyna’r unig beth fyddai’n siglo arweinwyr Ewrop a chwalu’u difaterwch.

Ac mae wedi awgrymu y byddai arweinwyr y gwledydd eraill yn gofyn i’r Deyrnas Unedig ailystyried pe bai’r bleidlais yn y refferendwm tros adael.

Beirniadu bargen yr wythnos ddiwetha’

Ac yntau’n cael ei ystyried yn un o athrawon gwleidyddol Prif Weinidog Prydain, mae Michael Howard wedi beirniadu’r fargen a gafodd David Cameron yn y trafodaethau Ewropeaidd yr wythnos ddiwetha’.

Er ei fod wedi bwriadu cael newidiadau sylfaenol, roedd wedi methu, meddai, a hynny ar y diwrnod pan mae David Cameron yn dod i Gymru.

Roedd y gwleidydd, sy’n wreiddiol o Gorseinon a Llanelli, yn rhoi’r bai am hynny ar arweinwyr yr Undeb sydd, meddai, “wedi eu cyfareddu gan yr awydd hen ffasiwn i greu gwlad o’r enw Ewrop”.