Jimmy Savile
Roedd yna ddiwylliant “o barch ac ofn” tuag at bobl adnabyddus yn y BBC ac mae’r “awyrgylch o ofn yn parhau hyd heddiw” yn ôl adolygiad hir-ddisgwyliedig i gam-drin gan y cyflwynydd Jimmy Savile.

Mae adolygiad y Fonesig Janet Smith hefyd yn dweud bod nifer o gyfleoedd wedi’u colli i atal Jimmy Savile rhag cam-drin merched yn rhywiol yn safleoedd y BBC.

Dywedodd y Fonesig Janet Smith bod merched a oedd yn ddigon dewr i wneud cwynion ynglŷn ag ymosodiadau rhywiol yn cael eu hystyried yn “niwsans” ac nid oedd eu cwynion yn cael eu trin yn briodol.

Ar ôl i ferch a oedd yn cael ei chyflogi gan y gorfforaeth wneud cwyn i’w rheolwr bod Savile wedi ymosod yn rhywiol arni, fe ddywedwyd wrthi “i gadw’n dawel” am ei fod yn “VIP” meddai’r adroddiad.

Roedd staff y BBC hefyd wedi “colli nifer o gyfleoedd”, yn dyddio nôl i’r 1960au, i atal Savile, a fu farw ym mis Hydref 2011 yn 84 oed. Nid oedd erioed wedi cael ei ddwyn i gyfrif am ei droseddau.

Roedd “methiannau difrifol” y BBC wedi caniatau iddo gam-drin 72 o bobl, meddai.

‘BBC ddim yn ymwybodol’

Dywedodd y Fonesig Janet Smith bod nifer o staff iau y BBC yn ymwybodol o droseddau Savile, ond mae hi wedi dod i’r casgliad nad oedd uwch-reolwyr y gorfforaeth yn gwybod amdanyn nhw.

Mae’r adroddiad wedi bod yn ymchwilio i ddiwylliant ac ymarferion y BBC yn ystod y blynyddoedd y bu Savile a Stuart Hall yn gweithio yno. Mae Hall, 86, bellach wedi cael ei garcharu am ymosod yn rhywiol ar ferched o dan oed.

Yn yr adroddiad mae’r Fonesig Janet Smith dweud ei bod wedi dod i’r casgliad bod “rhai unigolion yn ymwybodol o ymddygiad rhywiol amhriodol Savile mewn cysylltiad â’i waith gyda’r BBC.

“Serch hynny nid wyf wedi dod o hyd i dystiolaeth bod y BBC, fel corff corfforaethol, yn ymwybodol o ymddygiad rhywiol amhriodol Savile mewn cysylltiad â’i waith gyda’r BBC.”

‘Angen adfer ymddiriediaeth’

Dywedodd cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC Rona Fairhead heddiw fod y BBC wedi “methu”  ag amddiffyn dioddefwyr Jimmy Savile a Stuart Hall.

Mewn datganiad dywedodd ei bod wedi ei “brawychu” gan yr hyn a oedd wedi digwydd ac y byddai popeth yn cael ei wneud i sicrhau na fyddai’r un peth y digwydd eto. Ychwanegodd bod angen adfer ymddiriediaeth y cyhoedd yn y BBC.

Ymddiheuriad

Ac mae’r Arglwydd Hall, cyfarwyddwr cyffredinol y BBC wedi ymddiheuro wrth ddioddefwyr Jimmy Savile a Stuart Hall, gan ddweud: “Roedd y BBC wedi eich methu pan ddylai fod wedi eich amddiffyn. Rwy’n ymddiheuro’n daer am yr holl loes a achoswyd i bob un ohonoch chi.”

Daw’r adroddiad wrth i’r DJ Tony Blackburn, 73, ddweud fod y BBC wedi ei ddiswyddo.

Mae’n honni bod y penderfyniad wedi’i wneud oherwydd bod y dystiolaeth a roddodd i’r adolygiad ynglŷn ag ymchwiliad ym 1971 yn gwrth-ddweud tystiolaeth y BBC.

Mae’r Arglwydd Hall bellach wedi cadarnhau bod Tony Blackburn wedi gadael y gorfforaeth. Wrth gyfiawnhau’r penderfyniad dywedodd nad oedd safon y dystiolaeth a roddodd Tony Blackburn yn ddigonol wrth ystyried difrifoldeb yr adolygiad.

‘Heb fynd at wraidd y gwirionedd’

Yn ôl cyfreithiwr sy’n cynrychioli dioddefwyr Jimmy Savile a Stuart Hall fe fyddan nhw’n teimlo “eu bod wedi cael eu gadael i lawr” a bod yr adroddiad yn “gwyngalchu’r” hyn a ddigwyddodd.

Dywedodd Liz Dux sy’n cynrychioli 168 o ddioddefwyr ar ran cwmni Slater and Gordon Lawyers: “Er bod miliynau wedi cael ei wario ar yr ymchwiliad fe fydd fy nghleientiaid yn teimlo eu bod wedi cael eu gadael i lawr ac nad yw wedi dod at wraidd y gwirionedd.

“Mae’n anffodus nad oedd gan y Fonesig Janet unrhyw rym i orfodi uwch-reolwyr i roi tystiolaeth, gan roi’r argraff nad yw’r darlun llawn o bwy oedd yn gwybod beth wedi cael ei ddatgelu.”