Jeremy Clarkson
Mae Jeremy Clarkson a’r BBC wedi talu dros £100,000 i’r cynhyrchydd Top Gear a gafodd ei fwrw gan y cyflwynydd mewn ffrae fis Mawrth diwethaf, yn ôl adroddiadau.
Daw’r setliad ariannol fel iawndal i Oisin Tymon, gyda Jeremy Clarkson hefyd yn cyhoeddi ymddiheuriad swyddogol i’r cynhyrchydd.
“Hoffwn ddweud fy mod i’n flin iawn, unwaith eto, i Oisin Tymon am y digwyddiad a’i ganlyniad anffodus,” meddai Jeremy Clarkson wrth gyfeirio at gael ei ddiswyddo gan y BBC yn dilyn y ffrwgwd.
“Rwy’n falch bod y mater hwn wedi cael ei ddatrys. Roedd Oisin o hyd yn rhan gyffrous yn greadigol o Top Gear a dw i’n dymuno pob llwyddiant iddo gyda’i brosiectau yn y dyfodol.”
Sac o Top Gear
Mae’r setliad yn golygu na fydd gwrandawiad cyflogaeth, a allai fod wedi achosi rhagor o embaras i’r cyflwynydd.
Cafodd Jeremy Clarkson y sac gan y BBC o Top Gear yn dilyn y ffrwgwd gan wneud i’w gyd-gyflwynwyr James May a Richard Hammond roi’r gorau i’r rhaglen hefyd.
Bydd y triawd bellach yn cyflwyno rhaglen debyg ar wasanaeth teledu Amazon, tra bod Chris Evans yn ffilmio cyfres newydd o Top Gear gyda Matt LeBlanc o gyfres Friends gynt, a chyflwynwyr eraill gan gynnwys Eddie Jordan a Sabine Schmitz.