Mae disgwyl i'r Galeri fwrw ymlaen â chynlluniau i agor sinema dwy sgrîn erbyn 2018
Mae Galeri Caernarfon wedi beirniadu proses Cyngor Celfyddydau Cymru o rannu arian i’w sefydliadau celfyddydol yn dilyn y newyddion y bydd y sector yn wynebu toriadau o 3.5% o fis Ebrill ymlaen.
Bydd y ganolfan gelfyddydol yn gorfod gwneud tro â £9,450 yn llai y flwyddyn o’r Cyngor Celfyddydau, er bod cynlluniau i ehangu’r ganolfan ar y gweill.
Dywedodd Gwyn Roberts, Prif Weithredwr Galeri fod y ganolfan yn “derbyn y sefyllfa anodd” sy’n wynebu’r Cyngor ond bod y “broses wedi bod yn wastraff amser llwyr”.
“Rydym yn teimlo bod yr holl ymdrech, amser a gwaith llafurus oedd yn rhan o’r broses hon wedi bod yn wastraff amser llwyr, gan fod y Cyngor unwaith eto wedi penderfynu torri’r un ganran o grantiau’r mwyafrif o gleientiaid,” meddai.
Dywedodd nad oedd y cwmni “ddim callach” o’r ffordd y mae’r Cyngor yn mynd ati i ddewis pwy sy’n derbyn arian nac ar ba sail mae’r ffigurau hynny yn cael eu penderfynu.
“Sicr o effeithio”
Bydd y toriad arnyn nhw fel canolfan yn “sicr yn effeithio” ar eu rhaglen, meddai, ond nad oedd hi’n bosib gweld yr union effaith eto.
Cafwyd cadarnhad, serch hynny, na fyddai’r gostyngiad yng nghyllideb Galeri yn amharu ar ei chynlluniau i agos sinema ddwy sgrin ar y safle yn 2018.
Mae’r toriad yng nghyllideb y Cyngor Celfyddydau yn golygu y bydd 67 o gwmnïau’n cymryd eu siâr o’r pot sydd werth £25.9m.
Mae’n cymharu â chyllid o £27.1m yn 2015/16.
Rhannu arian
Ni fydd cwmnïau sy’n derbyn llai na £150,000 y flwyddyn – tua thraean o holl gwmnïau Cymru – yn wynebu unrhyw doriadau, ond mae’r cyhoeddiad yn effeithio ar gwmnïau mawr fel Opera Cenedlaethol Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru.
Mae disgwyl i gyllid Opera Cenedlaethol Cymru ostwng o £4.5 miliwn i £4.3 miliwn yn 2016-17.
Ond dau gwmni sydd ar eu hennill yw Ballet Cymru, sy’n gweld eu cyllid yn codi o £193,842 i £243,842, a Sinfonia Cymru, a’u cyllid nhw bron yn dyblu o £111,459 i £210,459.
Proses ‘heriol’
Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, yr Athro Dai Smith fod y broses wedi bod yn un “heriol”.
“Ond penderfynasom o’r cychwyn yn deg y byddai’n broses ddewr a phellgyrhaeddol. Heddiw, gwelir cyflawni ein huchelgais,” meddai.