Cynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru
Daeth cadarnhad gan Gyngor Celfyddydau Cymru y bydd y Celfyddydau yng Nghymru’n wynebu toriadau o 3.5% o fis Ebrill ymlaen.
Fe fydd 67 o gwmnïau’n cymryd eu siâr o’r pot gwerth £25.8 miliwn.
Mae’n cymharu â chyllid o £27.1m yn 2015/16.
Ni fydd cwmnïau sy’n derbyn llai na £150,000 y flwyddyn – tua thraean o holl gwmnïau Cymru – yn wynebu unrhyw doriadau, ond mae’r cyhoeddiad yn effeithio ar gwmnïau mawr fel Opera Cenedlaethol Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru.
Cam nesa’r broses fydd penderfynu faint o arian i’w roi i bob sefydliad.
Mae disgwyl i gyllid Opera Cenedlaethol Cymru ostwng o £4.5 miliwn i £4.3 miliwn yn 2016-17.
Ond dau gwmni sydd ar eu hennill yw Ballet Cymru, sy’n gweld eu cyllid yn codi o £193,842 i £243,842, a Sinfonia Cymru, a’u cyllid nhw bron yn dyblu o £111,459 i £210,459.
Cyllid am y tro cyntaf
Mae pedwar cwmni yn derbyn cyllid am y tro cyntaf, sef Arts Alive, Sefydliad Glowyr y Coed Duon, Jukebox Collective a Neuadd Les Ystradgynlais.
Ond mae pum cwmni wedi colli eu cyllid, sef Earthfall, Dawns Tan, Theatr Ffynnon yng Nghwmbran, Touch Trust a charnifal SWICA.
Bydd dau gwmni – Ffilm Cymru a Chelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru – yn cael eu hariannu drwy arian y Loteri.
Mae’r gyllideb yn ddibynnol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru, ac mae disgwyl penderfyniad terfynol yn y Senedd ar Fawrth 8.
Proses ‘heriol’
Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, yr Athro Dai Smith fod y broses wedi bod yn un “heriol”.
“Ond penderfynasom o’r cychwyn yn deg y byddai’n broses ddewr a phellgyrhaeddol. Heddiw, gwelir cyflawni ein huchelgais.
“Er gwaethaf toriad pellach o £1.5 miliwn yn yr arian a gawn gan Lywodraeth Cymru, gallasem gynnal rhwydwaith o sefydliadau sy’n perfformio ar lefel uchel.
“Gwarchodasom hwy hefyd rhag effaith lawn y toriadau gyda thros draean o’r portffolio heb brofi dim lleihad ariannol o gwbl.”
‘Ymrwymiad i safon’
Ychwanegodd Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru, Nick Capaldi mai “cryfder ac amrywiaeth ei chelfyddydau” yw “un o nodweddion amlycaf Cymru”.
“Parhawn i hyrwyddo pwysigrwydd rhyngwladol ein cwmnïau cenedlaethol ond gwerthfawrogwn cystal waith beunyddiol ein sefydliadau lleol, llai eu maint.
“Boed yn fawr neu’n fach, profodd y sefydliadau hyn eu hymrwymiad i safon ac ymdrechant yn barhaus i ddod o hyd i ffyrdd newydd o annog pobl Cymru i fwynhau’r celfyddydau a chymryd rhan ynddynt.”