Mae awdur llyfr newydd am y Ddraig Goch wedi apelio am wybodaeth er mwyn ceisio dod o hyd i’r sawl oedd yn gyfrifol am gynllunio baner Cymru.
Ar 23 Chwefror 1959, union 57 o flynyddoedd yn ôl, y cafodd y Ddraig Goch ei gwneud yn faner swyddogol y wlad, mewn cyfarfod cabinet yn dilyn ymgyrch hir gan Orsedd yr Eisteddfod.
Fe gymerodd hi ddegawd arall, yn arwisgo’r Tywysog Siarl yn 1969, i ddyluniad presennol y ddraig goch gael ei gymeradwyo.
Hyd heddiw fodd bynnag mae arlunydd y faner yn ddirgelwch yn ôl Siôn Jobbins, awdur The Red Dragon – The Story of the Welsh Flag.
‘Rhywun yn gwybod’
Dywedodd yr awdur wrth golwg360 ei fod yn bwriadu gwneud gwaith ymchwil i geisio canfod y dylunydd dirgel, gan apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu.
“Bydde fe’n dda petai rywun oedd ar hyd y lle’r adeg yna, adeg yr arwisgo, sydd efallai yn gwybod beth oedd yr hanes,” meddai Siôn Jobbins.
“Rhywun efallai oedd yn gweithio yn y Swyddfa Gymreig ar y pryd, bydde wedi bod yn rhan o’r peth, neu efallai rhywun byddai wedi bod yn y llywodraeth, neu rywun oedd yn ymwneud â’r arwisgo ei hun.”
“Mae rhywun yna, a fyddai efallai yn gallu fy rhoi ar ben ffordd.”
‘Hollbresennol’
Fe esboniodd Siôn Jobbins fod sawl cynllun a darlun gwahanol o’r ddraig wedi bodoli cyn penderfynu ar yr un sydd yn cael ei ddefnyddio heddiw erbyn 1969.
“Wrth i’r paratoadau am yr arwisgo agosáu mae’n debyg bod penderfyniad wedi bod i greu un cynllun cyffredinol,” meddai.
“Tybiaf fod y cyfrifoldeb hwn wedi ei roi i gwmni graffeg ac, os felly, mae’n rhaid mai un person sydd yn gyfrifol am greu’r ddraig fel mae hi nawr.
“Mae diddordeb mawr gennyf mewn dylunio – yn enwedig y darluniau bob dydd hyn rydym yn dueddol eu cymryd yn ganiataol. O safbwynt Cymreig, does dim byd sydd yn fwy hollbresennol na’r Ddraig Goch.”