Rhan o'r adeilad sydd wedi dymchwel yng ngorsaf bŵer Didcot
Mae un person wedi marw ac mae’r chwilio’n parhau am dri pherson arall ar ôl i adeilad chwalu mewn gorsaf bŵer yn Sir Rhydychen.

Mae pump o bobl yn parhau i gael triniaeth yn yr ysbyty ar ôl i’r adeilad yng ngorsaf bŵer Didcot chwalu tra’n paratoi i gael ei ddymchwel.

Mae cyflwr ansefydlog yr hen adeilad concrid a dur yn amharu ar waith y timau achub, sydd wedi bod yn gweithio drwy’r nos ar y safle.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad tua 4yp ddydd Mawrth.

Mae 50 o bobl eraill yn cael triniaeth ar ôl anadlu llwch ar y safle.