Mae disgwyl i Boris Johnson gyhoeddi nos Sul ei fod yn ymgyrchu dros adael yr Undeb Ewropeaidd, meddai’r BBC.

Dydy Maer Llundain ddim wedi datgan ei farn yn gyhoeddus hyd yn hyn, ond mae disgwyl cyhoeddiad nos Sul cyn iddo amlinellu ei resymau yn ei golofn yn y Daily Telegraph ddydd Llun.

Bydd refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd yn cael ei gynnal ar Fehefin 23.

Mae nifer o aelodau blaenllaw’r Ceidwadwyr, gan gynnwys Michael Gove, eisoes wedi dangos eu hochr.

Byddai recriwtio Johnson yn hwb i’r ymgyrch dros adael yr Undeb Ewropeaidd, gan ei fod yn cael ei ystyried fel arweinydd posib i’r ymgyrch.