Bydd Jeremy Corbyn yn Aberdâr ar Fawrth 5
Mae disgwyl hyd at 1,000 o bobol yn y gynulleidfa pan fydd arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn yn annerch aelodau’r Blaid yn Aberdâr fis nesaf.

Dywed y blaid yn lleol mai hwn yw’r digwyddiad mwyaf yn y Cymoedd ers 20 o flynyddoedd.

Corbyn yw’r siaradwr gwadd ar gyfer Darlith Flynyddol Keir Hardie yng Nghanolfan Hamdden Sobell ar Fawrth 5.

Fe gafodd wahoddiad gan Aelod Seneddol Cwm Cynon, Ann Clwyd.

Mae mwy nag 850 o docynnau eisoes wedi cael eu gwerthu.

Roedd Keir Hardie yn Aelod Seneddol Aberdâr rhwng 1900 a 1915.

Ymhlith y rhai sydd wedi traddodi’r ddarlith yn y gorffennol mae David Miliband.

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad yn cael eu gwerthu o hyd.