ASau yn gweld manteision llacio'r rheolau
Mae 200 o aelodau seneddol ac arweinwyr cynghorau yng Nghymru a Lloegr wedi llofnodi llythyr yn galw am lacio’r rheolau ynghylch oriau agor siopau ar ddydd Sul.

Yn y Sunday Telegraph, dywed y llythyr y byddai llacio’r rheolau’n rhoi hwb i obeithion pobol o gael swyddi ac yn helpu siopau i gystadlu gyda gwasanaethau ar y we.

Ar hyn o bryd, gall siopau dros 280 metr sgwar agor am chwe awr yn olynol rhwng 10yb a 6yh ar ddydd Sul yn unig, ac mae siopau sy’n torri’r rheolau’n gallu derbyn dirwy o hyd at £50,000.

Does dim rheolau pendant yn yr Alban, tra bod modd i siopau agor am bump awr rhwng 1yp a 6yh.

Mae cynlluniau ar y gweill eisoes gan Lywodraeth Prydain i ddatganoli rheolau masnachu ar ddydd Sul i gynghorau lleol.

Ond mae undeb y gweithwyr siopau’n gwrthwynebu’r cysyniad.

Dydy’r rheolau ddim wedi cael eu hadolygu ers 1994, ac mae’r llythyr yn dadlau bod agweddau pobol at fasnachu ar ddydd Sul wedi newid yn y cyfnod hwnnw.

Dywed y llythyr: “Y dyddiau hyn, mae’n iawn i bobol ddisgwyl mwy o hyblygrwydd ym mhob agwedd ar eu bywydau, ac mae gallu siopa pan fo’n gyfleus yn un o’r cyfryw fathau o ryddid.

“Mae ein stryd fawr wedi bod yn ceisio cystadlu gyda siopa ar-lein 24/7.”

Mae’r llythyr hefyd yn dadlau y byddai llacio’r rheolau’n tynnu Cymru a Lloegr yn nes at weddill Ewrop o ran rheolau masnachu.

“Y duedd ar draws Ewrop yw llacio rheolau masnachu ddydd Sul,” meddai’r llythyr, gan nodi y bu cynnydd net o 7-9% mewn cyflogaeth ers llacio’r rheolau ar y cyfandir.