Wren sydd wedi ariannu'r adfywiad
Fe fydd Gwarchodfa Natur Ffos Noddun yng Nghonwy yn cael ei hadfywio yn dilyn buddsoddiad o £39,000.

Bydd y gwaith yn y coetir yn dechrau fis nesaf wedi i Wren neilltuo’r arian.

Bydd yn cael ei ddefnyddio i adfywio’r ddyfrffos, ac fe fydd bocsys ystlumod newydd yn cael eu gosod yno, ynghyd â hysbysfyrddau newydd.

Cafodd y ddyfrffos ei hagor yn y 1900au fel rhan o raeadr a llyn.

Mae disgwyl i’r gwaith bara rhwng pedair a chwech wythnos.