Un o'r ddau yn ddringwr profiadol
Mae timau achub wedi dod o hyd i ddau ddyn oedd wedi mynd ar goll wrth gerdded ym Mannau Brycheiniog.

Mae’r ddau yn eu 40au.

Roedden nhw wedi bod yn cerdded rhwng Dan-yr-Ogof a’r Mynydd Du cyn mynd ar goll toc wedi 5.30 brynhawn Sadwrn.

Roedd timau achub, Heddlu Dyfed Powys a hofrennydd yr awyrlu wedi bod yn chwilio amdanyn nhw.

Mae lle i gredu bod un o’r ddau yn ddringwr profiadol.

Mae’r ddau wedi cael eu cludo i’r ysbyty, ond dydy eu cyflwr ddim yn hysbys ar hyn o bryd.