Dynes a phlentyn wedi'u hachub
Mae dau fachgen bach wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yn Huddersfield brynhawn dydd Sadwrn.

Mae lle i gredu bod y ddau fachgen yn ddwy ac yn dair oed.

Llwyddodd dynes a phlentyn arall i ffoi cyn i’r gwasanaethau brys gyrraedd y safle toc cyn 2.15 brynhawn dydd Sadwrn.

Cafodd y ddau fachgen eu tynnu o’r tŷ, ond fe fu farw’r ddau yn fuan wedyn.

Mae ymchwiliad ar y gweill, ond does dim lle i gredu bod unrhyw amgylchiadau amheus.