Teulu Aled James Smith yn gofidio amdano
Mae pryderon am ddyn 21 oed o Gaerdydd sydd ar goll ers dydd Iau.

Mae Heddlu’r De wedi apelio am wybodaeth am Aled James Smith o’r Rhath.

Cafodd ei weld ddiwethaf am oddeutu 3 o’r gloch brynhawn dydd Iau.

Mae ei deulu wedi apelio arno i roi gwybod iddyn nhw ei fod yn ddiogel.

Dylai unrhyw un sydd wedi’i weld ffonio’r heddlu ar 101.