Maer Llundain yn cael ei ystyried yn arweinydd naturiol i'r ymgyrch dros adael yr Undeb Ewropeaidd
Mae Prif Weinidog Prydain, David Cameron wedi ymbil ar Faer Llundain, Boris Johnson i gefnogi ei ymgyrch i sicrhau bod Prydain yn aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

Dydy Johnson ddim wedi datgan yn gyhoeddus eto a fydd yn ymgyrchu o blaid aros neu adael.

Dywedodd Cameron y byddai’n “gam anghywir” i Johnson gynghreirio ag arweinydd UKIP, Nigel Farage a George Galloway o blaid Respect.

‘Gwell ein byd yn Ewrop’

Ar raglen Andrew Marr ar BBC1, dywedodd Cameron: “Byddwn yn dweud wrth Boris yr hyn rwy’n ei ddweud wrth bawb arall, sef y byddwn ni’n fwy diogel, yn gryfach, byddwn yn well ein byd o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

“Rwy’n credu bod y cysyniad o gysylltu breichiau gyda Nigel Farage a George Galloway a chymryd naid i’r tywyllwch yn gam anghywir i’n gwlad.

“Os yw Boris ac eraill wir yn gofalu am gael gwneud pethau yn ein byd, yna mae’r Undeb Ewropeaidd yn un ffordd o’u gwneud nhw.”

‘Brexit’

Mae nifer o Geidwadwyr blaenllaw eisoes wedi datgan eu cefnogaeth i’r ymgyrch dros adael yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys y Gweinidog Cyfiawnder, Michael Gove.

Ac fe fu si mai cefnogi gadael hefyd fydd penderfyniad Boris Johnson wedi iddo gynnal cinio preifat gyda Gove cyn i hwnnw ddangos ei ochr.

Mae Johnson yn cael ei ystyried yn arweinydd naturiol ar gyfer yr ymgyrch dros adael, gan y byddai’n debygol o allu sicrhau cefnogaeth y cyhoedd.