Mae dyn 24 oed wedi cael ei ladd wrth i’r heddlu ei gwrso drwy ganol dinas Manceinion yn oriau man fore Sul.

Bu farw’r dyn yn y fan a’r lle yn ardal Old Trafford yn dilyn y gwrthdrawiad am oddeutu 3.30 y bore.

Tarodd ei gar yn erbyn Mini ger cylchfan cyn taro barier, a chafodd dwy ddynes eu cludo i’r ysbyty ag anafiadau.

Mae’r heddlu a Chomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu’n cynnal ymchwiliad.