Nia Griffith yn annerch cynhadledd y Blaid Lafur yn Llandudno ddydd Sul
Fe fydd llefarydd Materion Cymreig y Blaid Lafur, Nia Griffith yn dweud wrth gynhadledd ei phlaid yn Llandudno ddydd Sul fod gan y blaid y gallu i newid bywydau pobol er gwell.

Bydd Aelod Seneddol Llanelli yn dweud bod ei phlaid yn cynnig buddsoddiad i Gymru wrth i’r Ceidwadwyr gyflwyno toriadau.

Bydd hi’n herio’r gynhadledd i “ddychmygu’r pris” pe bai’r Ceidwadwyr mewn grym yn y Senedd yng Nghaerdydd ac yn San Steffan.

Bydd hi’n dweud: “Mae Llafur yn newid bywydau pobol pan ydyn ni mewn llywodraeth.”

Llafur v Ceidwadwyr

Bydd neges Nia Griffith yn ychwanegu at sylwadau Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ddydd Sadwrn, wrth iddo ddarogan y byddai etholiadau’r Cynulliad yn ras uniongyrchol rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr.

Bydd Nia Griffith yn ychwanegu: “Gyda’n gilydd, rydym yn brwydro dros Gymru yn San Steffan ac yn herio ymdriniaeth warthus y Toriaid o’n cenedl.”

“Mae angen i ni ddweud wrth deuluoedd ar hyd a lled y wlad beth mae llywodraeth Lafur Cymru’n ei gyflawni.

“Buddsoddiad yng Nghymru, yn erbyn toriadau o du San Steffan – swyddi i’n pobol ifanc, nid gadael cenhedlaeth ar ei hôl hi.”

Bydd Nia Griffith hefyd yn rhoi sylw yn ystod ei hanerchiad i’r Gwasanaeth Iechyd, cyflwyno’r isafswm cyflog a chreu’r Cynulliad Cenedlaethol.