Iain Duncan Smith - eisiau tynnu allan o Ewrop
Mae pump o weinidogion Cabinet San Steffan wedi datgan y byddan nhw’n ymgyrchu o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd – a hynny er bod David Cameron wedi rhybuddio mai “naid yn y tywyllwch” fyddai pleidlais felly.

Michael Gove, Iain Duncan Smith, Chris Grayling, Theresa Villiers a John Whittingdale ydi’r pump, ynghyd â Priti Patel, sydd ddim yn aelod llawn o’r Cabinet, ond yn mynychu cyfarfodydd.

“Mae’r dewis yn eich dwylo chi,” meddai David Cameron wrth gyhoeddi mai ar Fehefin 23 y bydd y refferendwm ar Ewrop yn cael ei gynnal. “Ond mae fy argymhelliad i’n hollol glir. Dw i’n credu y byddai Prydain yn saffach, yn gryfach ac yn well allan o aros oddi mewn i Undeb Ewropeaidd diwydiedig.

“Fedr y rheiny sydd am adael yr Undeb Ewropeaidd ddim dweud wrthoch chi p’un ai fydd busnesau Prydeinig yn gallu cael mynediad am ddim i’r farchnad sengl, nac os ydi swyddi pobol yn saff, na faint y byddai prisiau nwyddau yn codi,” meddai David Cameron wedyn.

“Y cyfan maen nhw’n ei gynnig ydi risg ar adeg o ansicrwydd beth bynnag – naid yn y tywyllwch.”