Mae David Cameron wedi cyhoeddi mai ar ddydd Iau, Mehefin 23, y bydd pobol gwledydd Prydain yn cael pleidleisio tros aros neu adael yr Undeb Ewropeaidd.

Yn syth wedi iddo gynnal cyfarfod o’i Gabinet fore heddiw, fe wnaeth y cyhoeddiad gan ddweud ei fod ef ei hun o blaid aros o fewn Ewrop “ddiwygiedig”.

Dan y cytundeb a fu’n destun trafodaethau dwys ym Mrwsel ddoe, mae David Cameron yn dweud iddo lwyddo i sicrhau “brêc” ar fudd-daliadau lles, a all bara am saith mlynedd, i fewnfudwyr; ac fe fydd yna gyfyngu ar faint o fudd-dal plant y bydd mewnfudwyr yn gallu ei hawlio wedi 2020.

At hynny, mae David Cameron yn dweud ei fod wedi sicrhau y gallu i ddeddfu ar frys mewn achosion yn ymwneud â diogelwch dinas Llundain.