Mae delwyr cyffuriau a gafodd eu rhwystro ar draffordd yr M6, a’u dal gyda bloc o gocên yn pwyso 999 gram wedi’i guddio yn eu car, wedi’u carcharu am brom i bum mlynedd yr un.

Roedd Bekim Domi a Shkelqim Dardha, dinasyddion o Albania, wedi troi i mewn i wasanaethau Corley yng nghanolbarth Lloegr, ar eu ffordd i Lundain, pan gawson nhw eu stopio gan yr heddu.

Mae Heddlu’r West Midlands yn dweud fod slabyn gwerth £120,000 o gyffur dosbarth A wedi’i ganfod yn y car, ynghyd â dwy fricsen o resin canabis yng nghist y car Mercedes E-Class. Roedd Bekim Domi, 25, a Shkelqim Dardha, 25, wedi cyfadde’ bod â’r cyffuriau yn eu meddiant, gydar bwriad o’i gyflenwi i eraill.

Maen nhw ill dau wedi’u carcharu am bedair blynedd ac wyth mis.