Mae dyn wedi’i arestio a’i gyhuddo o lofruddiaeth, wedi marwolaeth merch fach bum mis oed.

Fe gafodd Hayley Davidson ei chludo i’r ysbyty wedi i’r heddlu gael eu galw i’w chartre’ yn Buckhaven, Fife, ddydd Sul diwetha’.

Roedd yr heddlul’n ymateb i alwad gan rywun oedd yn bryderus ynglyn â’r ferch fach a fu farw yn y Royal Hospital for Sick Children yng Nghaeredin brynhawn dydd Mercher.

Mae disgwyl i ddyn 36 oed ymddangos gerbron Llys Siryf Kirkcaldy ddydd Llun.