Mae beth bynnag un wedi’i ladd wedi i gannoedd o filwyr ymyrryd mewn protest am fudd-daliadau yn un o daleithiau India.

Mae cerbydau, canolfannau siopa a gorsafoedd trên wedi cael eu llosgi, a chartrefi gwleidyddion wedi bod yn darged wedi i’r heddlu dderbyn gorchymyn i danio at brotestwyr mewn nifer o drefi yn nhalaith Haryiana.

Mae 78 o bobol wedi’u hanafu yn yr ymladd rhwng lluoedd diogelwch a phrotestwyr ers dydd Gwener.

Mae protestwyr wedi rhwystro ceir ar y draffordd sy’n arwain o Delhi Newydd i ddinasoedd gogledd India.

Fe ddefnyddiwyd hofrenyddion gan yr awdurdodau er mwyn dod â milwyr y fyddin i mewn i geisio cael trefn yn ardaloedd Rohtak, Bhiwani a Jhajjar, lle mae cyrffiw hefyd mewn grym.