Mae Cymdeithas Bêl-droed Lloegr wedi methu gwerthu ei chyfran o docynnau ar gyfer Pencampwriaeth Ewro 2016.
Mae’n debyg fod y gymdeithas wedi dychwelyd tocynnau ar gyfer gêm agoriadol y wlad yn erbyn Rwsia yn Marseille ar ôl iddyn nhw fethu â gwerthu’r 11,000 wnaethon nhw dderbyn.
Nid yw’n syndod mai’r gêm yn erbyn Cymru yn Lens gafodd y mwyaf o geisiadau am docynnau ac er bod y dyddiad cau i geisio un o’r 6,000 o docynnau gafodd y Saeson ar gyfer y gêm honno wedi bod ers 18 Ionawr, mae’r gymdeithas yn parhau i fynd trwy’r ceisiadau, yn ôl The Daily Mail.
Cymry’n gofyn am fwy
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar y llaw arall wedi gofyn i UEFA am ragor o docynnau ar gyfer gemau Ewro 2016 wedi i filoedd gael eu siomi.
Dim ond 21,000 o docynnau sydd wedi cael eu dosbarthu gan UEFA i’r Cymry ar gyfer y tair gêm, er bod 52,000 o geisiadau am docynnau wedi cael eu cyflwyno.