Christophe Declercq, sydd wedi bod yn casglu'r straeon at ei gilydd, ar y Pier Belgaidd yn Porthaethwy
Mae hanes y ffoadur greodd Cadair Ddu Hedd Wyn yn un o sawl stori nodweddiadol sydd wedi cael ei chasglu fel rhan o ymchwil newydd i’r Belgiaid fu yng Nghymru yn ystod Y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cafodd rhai o ganfyddiadau ymchwil gan Christophe Declercq, darlithydd ym Mhrifysgol UCL yn Llundain sydd wedi bod yn edrych ar hanes y ffoaduriaid o Wlad Belg, eu cyflwyno fel rhan o brosiect Cymru Dros Heddwch yn ddiweddar.

Roedd y Cymry ar y cyfan yn groesawgar tu hwnt i’r miloedd o ffoaduriaid ddaeth draw yma ganrif yn ôl i osgoi’r ymladd ar y cyfandir, yn ôl yr ymchwil mae wedi’i wneud.

Ac mae hynny’n wahanol iawn i’r ymdeimlad cyffredinol presennol o gwmpas dyfodiad ffoaduriaid o Syria a’r Dwyrain Canol heddiw, meddai.

Y Gadair Ddu

Daeth tua 4,500 o Felgiaid i aros yng Nghymru yn ystod Y Rhyfel Byd Cyntaf wrth i’r brwydro barhau yn Ewrop, sef cyfran gymharol fechan o’r 250,000 ddaeth i Brydain rhwng 1914 a 1918.

Cafodd y rhan fwyaf ohonyn nhw waith yn y diwydiant rhyfel gan gynnwys ffatrïoedd arfau. Ond gyda phrinder gwaith o’r fath yng Nghymru fe wnaeth llawer ohonyn nhw fywoliaeth fel artistiaid a chrefftwyr.

Mae gwaith coed mewn eglwysi, gan gynnwys yn Eglwys Llanwenog, yn ogystal â’r Pier Belgaidd ym Mhorthaethwy ym Môn yn goroesi o hyd fel arwydd o’u presenoldeb.

Ond un o’r cyfraniadau mwyaf arwyddocaol oedd hwnnw gan Eugeen Vanfleteren, a greodd y Gadair Ddu gafodd ei dyfarnu i Hedd Wyn yn ei absenoldeb yn Eisteddfod Genedlaethol 1917. Roedd y bardd eisoes wedi marw yn y rhyfel.

“Yn gyntaf roedd rhaid i mi sylwi beth oedd gwerth symbolaidd y Gadair,” esboniodd Christophe Declercq wrth golwg360.

“Ond nawr rydych chi’n sylwi cymaint o beth yw hi, a bod angen rhagor o sylw iddi. Ond dw i’n siŵr y bydd hi pan fydd y Gadair yn ganolbwynt yn [Eisteddfod] 2017.”

Croeso gan y Cymry


Y gwaith coed cywrain ar y Gadair Ddu
Mae Christophe Declercq yn gobeithio casglu mwy o hanesion y Belgiaid yng Nghymru dros y misoedd nesaf fel rhan o’r gwaith.

Ond mae’n dweud bod yr ymchwil mae wedi’i wneud hyd yn hyn yn awgrymu bod y ffoaduriaid “wedi integreiddio’n dda” yn eu cymunedau lleol, ac wedi dychwelyd i Wlad Belg ar ôl y rhyfel ag “atgofion melys”.

“Mae’n anodd dychmygu’r dyddiau yma, ond pan oedd y Belgiaid yn cyrraedd roedd y niferoedd oedd yno i’w cyfarfod, ble bynnag roedden nhw, yn ddeg neu ganwaith mwy [na nifer y ffoaduriaid],” esboniodd y darlithydd.

“Yn Y Rhyl roedd gennych chi tua 20 o bobol yn cyrraedd a thua 800 o bobol yno i’w cyfarfod. Roedd clapio a gweiddi, ond roedd hefyd ffraeo achos roedd y trigolion lleol i gyd eisiau cario eu bagiau ond doedd dim digon i bawb!”

Mae hynny’n wahanol iawn, meddai, i’r croeso cyffredinol sydd i’w gael ar gyfer mewnfudwyr o Syria a gwledydd eraill sydd yn dod i Brydain heddiw.

“Mae gennych chi bobol yn holi, os oedd modd croesawu ffoaduriaid yn y modd hwnnw o’r blaen, pam ddim nawr?” gofynnodd.

“Mae pryder mawr fod hyn yn rhywbeth sydd wedi cael ei golli. Mae’n rhyfel wahanol yn Syria, wrth gwrs, dyw hi ddim yn Ewrop, mae grwpiau a sefydliadau gwahanol yn rhan ohoni.”

Stori: Iolo Cheung