Mae DJ amlyca’ Cymru wedi rhoi cefnogaeth gref i ddigwyddiadau fel Gwobrau Selar sy’n digwydd yn Undeb y Myryrwyr Aberystwyth fory.
Yn ôl Huw Stephens, DJ Radio 1 a Radio Cymru, mae achlysuron o’r fath yn hanfodol i sicrhau llwyddiant y sîn roc a phop Gymraeg.
Ac fe fydd arwain y ddarpariaeth wrth i Radio Cymru roi mwy o sylw nag erioed i’r gwobrau.
Fe fydd ganddy nhw lif byw o’r noson ar eu gwefan nos Sadwrn ac wedyn fe fydd Huw Stpehens ei hun yn ail-fyw’r uchafbwyntiau ar raglen Lisa Gwilym ar C2 nos Fercher.
Tynnu sylw
Roedd digwyddiadau fel Gwobrau Selar yn bwysig o ran codi ymwybyddiaeth a rhoi sylw i’r hyn sy’n digwydd yn y byd pop a roc Cymraeg, meddai Huw Stephens, a’r syniad o wobrau yn ychwanegu at hynny.
“Mae’n rhaid cael yr elfen gystadleuol,” meddai Huw Stephens. “Ond mae’n glod i bawb sy’n cael eu henwebu.”
Roedd digwyddiadau o’r fath yn tynnu popeth at ei gilydd ac yn cryfhau’r hy sy’n digwydd.
Y perfformiadau
Roedd yn edrych ymlaen eleni at glywed y perfformiadau byw a’r rheiny’n cynnwys bandiau newydd fel Ysgol Sul, cantorion unigol newydd fel Aled Rheon a bandiau ‘gwahanol’ fel HMS Morris a Band Pres Llarregub.
Mae Huw Stephens yn falch iawn o weld bandiau felly yn torri tir gwahanol, meddai – ei un feirniadaeth oedd fod gormod o fandiau gitâr o hyd yn y sîn Gymraeg, yn deillio’n ôl i’r dyddiau cynnar.
Ond roedd cymaint o fywyd ag erioed, gyda thechnoleg newydd yn rhoi cyfle i fwy o berfformwyr recordio a chyhoeddi deunydd.
Ac fe allai Huw Stephens ei hun orffen gyda gwobr – mae’n cystadlu yn erbyn ei gyd-gyflwynwyr ar Radio Cymru, Lisa Gwilym a Dyl Mei, am wobr y Cyflwynydd Gorau.