Queens, Arberth, lle bydd Stuart Maconie yn ymddangos fis nesaf
Fe fydd y cyflwynydd radio poblogaidd Stuart Maconie yn dod â’i sioe deithiol i Sir Benfro fis nesaf.

Bydd Stuart Maconie – un hanner o’r deuawd Radcliffe a Maconie – yn ymddangos yn Neuadd Queens yn Arberth ar Fawrth 26 yn ystod ei daith ‘The Pie at Night’.

Diben y digwyddiad yw mynd â’r gynulleidfa ar daith ddiwylliannol ar hyd a lled gwledydd Prydain, gan ganolbwyntio’n bennaf ar fywyd yng ngogledd Lloegr.

Bydd Maconie, sy’n hanu o Sir Gaerhirfryn, yn adrodd straeon sydd wedi’u cynnwys yn ei gyfrolau niferus – o ddiwylliant i wyliau teuluol a llawer mwy.

Llyfr Maconie, ‘Adventures on the High Teas’ oedd un o’r llyfrau mwyaf poblogaidd ymhlith llyfrau teithio yn 2009, a ‘Pies and Prejudice’ yn un o’r llyfrau mwyaf poblogaidd yn 2008.

Fel awdur llyfrau teithio, mae Maconie wedi cael ei gymharu â rhai o’r mawrion, gan gynnwys Bill Bryson.

Mae Maconie i’w glywed bellach ar Radio 6 Music, lle mae’n cyflwyno ‘The Freakier Zone’ ac yn cyd-gyflwyno ‘Radcliffe and Maconie’.

Elusen Span Arts sydd wedi trefnu’r noson ac mae modd prynu tocynnau drwy fynd i’w gwefan, spanarts.org.uk.