Rachel Slater a Tim Newton ar goll ers y penwythnos
Mae teuluoedd dau gerddwr sydd wedi bod ar goll ar Ben Nevis ers y penwythnos wedi dweud eu bod yn “obeithiol o hyd” y byddan nhw’n cael eu darganfod.

Methodd Rachel Slater, 24, a Tim Newton, 27, â dychwelyd adref ar ôl bod yn cerdded mynydd uchaf yr Alban, a hyd yn hyn mae eira, niwl a gwyntoedd cryfion wedi rhwystro ymdrechion i ddod o hyn iddyn nhw.

Y gred yw fod y ddau ddringwr profiadol wedi bod yn gwersylla y tu ôl i gaban ar ochr ogleddol y mynydd.

Roedd hofrennydd wedi bod yn chwilio amdanyn nhw ddydd Mercher cyn cael ei ddargyfeirio ar ôl i un person farw ac un arall gael ei anafu mewn eirlithrad cyfagos.

Diolch i’r gwasanaethau

Mae teulu Rachel Slater, sydd yn byw yng Nghanada, bellach wedi hedfan draw i’r Alban er mwyn gallu dilyn y diweddaraf yn yr ymdrechion i ddod o hyd i’r ddau.

“Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar i aelodau’r gwasanaethau brys a’r timau chwilio ac achub sydd yn edrych am Rachel a Tim,” meddai teuluoedd y ddau mewn datganiad.

“Mae’r ymateb enfawr gan aelodau’r cyhoedd a’r gymuned ddringo wedi bod yn help mawr i’r ymdrechion chwilio ac rydyn ni’n gwerthfawrogi’r holl gefnogaeth a’r geiriau o gysur.

“Wrth i’r chwilio barhau rydyn ni’n obeithiol o hyd y bydd Rachel a Tim yn cael eu canfod ac y byddan nhw’n gallu ailymuno â’u teuluoedd a’u ffrindiau.”