Mae disgwyl i nifer y tai ledled Prydain sydd werth o leiaf £1 miliwn dreblu erbyn 2030, yn ôl un adroddiad ar brisiau tai.

Mae’r rhagamcan yn golygu y bydd tua un o bob 20 o dai yn y DU yn werth o leiaf £1 miliwn, yn ôl ymchwil gan Santander Mortgages.

Yn ôl yr adroddiad, bydd un o bob pedwar o dai (25%) yn Llundain yn werth dros £1 miliwn erbyn 2030, tra bydd gan Gymru lai nag 1% o dai ar y fath gost.

Mae’r ffigwr ychydig yn uwch yng Nghaerdydd, lle mae disgwyl i 1.6% o dai fod dros £1 miliwn, ac ym Mro Morgannwg, fe fydd y canran yn cynyddu i 2%.

Ehangu’r bwlch

Roedd yr adroddiad hefyd yn rhagweld y bydd y bwlch rhwng y bobol sydd eisoes yn berchen ar dai a’r sawl sy’n cael trafferth dringo’r ysgol eiddo yn ehangu, wrth i fwy o dai cyffredin gael eu gwerthu am £1 miliwn.

Rhybuddiodd yr adroddiad y byddai prynwyr tai tro cyntaf yn gorfod cyfaddawdu mwy, drwy symud i ffwrdd oddi wrth eu ffrindiau a’u teuluoedd a theithio’n hirach i’r gwaith bob dydd.

Cynnydd mawr mewn prisiau cyffredin

Dywedodd hefyd y byddai’r pris arferol am dŷ yn y DU heddiw, sef £280,000 yn cynyddu i £344,000 ymhen pum mlynedd ac y bydd bron iawn â dyblu mewn pris i £557,444 erbyn 2030.

Er mwyn rhagweld y prisiau, roedd awduron yr adroddiad wedi defnyddio ffigurau prisiau tai swyddogol ac wedi ystyried patrymau blaenorol mewn incwm pobol, newidiadau yn y boblogaeth, gwaith adeiladu tai a chyfraddau llog.