Fe fu’n rhaid cau marchnad Abertawe y prynhawn ma yn dilyn tân mewn siop ar y safle.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am oddeutu 2.10 yn dilyn adroddiadau bod tân mewn siop gyfrifiaduron.

Mae lle i gredu bod cannoedd o bobol yn y farchnad ar y pryd, a bod rhaid iddyn nhw adael am gyfnod.

Mae ymchwiliad ar y gweill.